Steve

Cefais gyflwyniad cynnar i alcohol, a chefais flas amdano gyda fy ffrindiau pan oeddwn yn fy arddegau.  Erbyn i mi ddechrau gweithio yn y 70au, roedd mynd i’r dafarn amser cinio a gyda’r hwyr ar ôl gwaith hefyd yn beth hollol normal, ac nid oedd angen llawer o berswâd arnaf.

Daeth yfed i fod yn rhywbeth mor naturiol ag anadlu ac roeddwn yn hollol gaeth erbyn yr 80au, gan yfed peints a fodca fel ‘tae’r byd ar ben.

Roedd i wastad wedi bod yn ffit iawn ac efallai mai hynny oedd wedi helpu i bethau beidio bod yn waeth i mi am gyfnod mor hir.  Ond erbyn yr 80au, roedd yr yfed wedi mynd dros ben llestri ac roedd wedi dechrau effeithio ar fy swydd a’m perthnasoedd.

Erbyn canol fy 30au a thuag at ddiwedd fy 30au, roeddwn yn cael fy nal yn y gwaith, naill ai’n yfed yn y gwaith neu oherwydd fy mod yn gwneud camgymeriadau.

Ac roedd fy merched o’m priodas – a chwalodd pan oeddwn yn fy 30au – wedi dechrau dal dig tuag ataf.

Ceisiais stopio trwy ymuno ag Alcoholigion Anhysbys, ond byddwn yn cyrraedd cyfarfodydd yn feddw ac roedd hi’n amlwg nad oeddwn yn barod i ymrwymo i’r ymwrthodiad yr oedd AA yn ei fynnu.

Bu’r blynyddoedd nesaf yn rhai gwyllt wrth i mi geisio cyflawni swydd a chael unrhyw fath o berthynas hirdymor.

Deuthum ar draws Addaction yn gyntaf yn 2012 pan ddechreuodd Kate Lovett, a oedd yn hwyluso cyfarfodydd grŵp, gysylltu â mi.

Ond er gwaethaf yr help cychwynnol hwn, nid oeddwn yn gallu stopio o hyd.

Yna cefais dair trawiad ar y galon yn gyflym ar ôl ei gilydd yn 2014, a gododd ofn aruthrol arnaf.  Ond roedd gafael yr alcohol mor gryf fel mai’r peth cyntaf a wnes i ar ôl cael llawdriniaeth i achub fy mywyd oedd mynd allan i brynu potel o win i ddathlu.

Yn ystod cyfnod yn yr ysbyty yn 2015, daeth nyrs o’r enw Julie i siarad â mi, ac roedd hi’n gallu gweld fy mod i mewn trafferth enbyd.  Argymhellodd Julie raglen newydd o’r enw Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda, ond roeddwn i mor ystyfnig ag erioed, a gwrthodais yr help.

Wrth iddi gerdded i ffwrdd, fodd bynnag, sylweddolais mai hwn oedd fy nghyfle olaf, a galwais arni i ddychwelyd.

Yn ffodus, roedd Kate Lovett newydd ddechrau gweithio i Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda yn Nyfnaint ac aethom ati i ailgydio yn y sefyllfa.  Ond y tro hwn, cawsom sesiynau un-i-un a oedd yn para dros awr am gyfnod o fisoedd.

Fel nifer o alcoholigion, roeddwn i wedi addo peidio cael diferyn arall ganwaith, ond llwyddodd Kate i sicrhau fy mod yn cyrraedd y pwynt lle nad oedd y rhain yn eiriau gwag.

Un diwrnod, dywedais wrth fy mhartner, “Heddiw, nid ydw i’n mynd i yfed” ac o’r adeg honno, roedd hi’n un dydd ar y tro i mi.

Yn y diwedd, dywedais “Nid ydw i fyth yn mynd i gael diod arall ac ni fydd unrhyw beth yn newid fy meddwl” ac nid ydw i wedi.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae bywyd yn grêt!  Mae gen i swydd, car neis ac mae fy merched yn rhan fawr o’m bywyd.

Heb os, mae Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda wedi achub fy mywyd.