Angie

Fy enw i yw Angie ac rydw i’n drigain a hanner.  Rydw i wastad wedi gweithio’n galed, wastad wedi mwynhau diod a wastad wedi mwynhau cymdeithasu pan nad oeddwn yn gweithio neu’n magu’r plant.

Ond yn anffodus i mi, aeth yr yfed yn ormod o arfer ac yn lle bod mewn sefyllfa lle’r oeddwn i yn rheoli’r diod, roedd y diod yn fy rheoli i.  Dyna oedd y sefyllfa nes i mi benderfynu ei bod hi’n bryd gwneud rhywbeth amdano.

Beth oedd wedi peri i mi yfed i’r fath raddau?

Ni allaf ddweud wrthych yn union yr hyn a arweiniodd at y ffaith fy mod yn yfed i’r fath raddau ag yr oeddwn.  Roedd yn ffrwydrad o sawl trawma yr wyf wedi’u dioddef yn ystod fy mywyd.

Ar gyfartaledd, roeddwn yn yfed tua tri litr a hanner o chwisgi yr wythnos, ac rydw i’n synnu fy mod i yma o hyd ar ôl yfed cymaint.

Roedd fy arferion yfed wedi peri problemau rhyngof i a’m gŵr.  Roedd wedi peri i mi stopio cael cyswllt mor agos â’m hwyrion a’m hwyresau.  Roedd wedi fy atal rhag ymddwyn fel fi i ddweud y gwir.  Rydw i wastad wedi bod yn unigolyn hapus a llawn bywyd.  Collais fy mhersonoliaeth yn llwyr.

Sylweddolais bod angen i mi geisio help pan ddechreuais gwympo a chael dolur.  Sylweddolais hefyd na allwn gychwyn y dydd heb gael diod yn gyntaf ac roedd hyn wedi parhau am gryn amser.  Roeddwn yn sylweddoli bod yn rhaid i mi stopio, ond roeddwn yn gwybod na allwn wneud hynny ar fy mhen fy hun.  Dyma’r adeg pan benderfynais chwilio am help a chredwch fi, mae help yno os ydych yn ei ddymuno.

Cysylltais ag Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda yn y fan a’r lle.  Roedd angen help proffesiynol arnaf ac roeddwn yn gwybod bod angen i mi gael cymorth gan bobl a fyddai’n gallu deall yr hyn yr oeddwn yn ei wynebu ac a fyddai’n gwybod sut i’m helpu.  Mae’r cymorth yno hyd heddiw ac nid wyf yn gwybod beth fyddai fy hanes i hebddyn nhw.

Cyfaddef bod gennyf broblem

I mi, y rhan anoddaf o ddelio â’m harferion yfed oedd cyfaddef bod gen i broblem.  Roedd hynny’n brofiad hunllefus oherwydd y ffordd yr oeddwn yn teimlo ynghylch yfed ar y pryd.  Ond roeddwn yn gwybod bod angen help arnaf, gan fy mod i wedi ceisio delio â’m harferion yfed ar fy mhen fy hun ac wedi methu.  Felly cysylltais ag Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda yn y lle cyntaf ac oddi yno, mannau eraill yr oedd angen i mi droi atynt ac mae’r help yno i ni gyd.

Yr anhawster mwyaf i mi wrth i mi adfer oedd y stigma.  I nifer o bobl, pan fyddwch yn sôn am fod yn ddibynnol ar alcohol neu’n alcoholig, y peth cyntaf fydd yn dod i’w meddwl fydd hen ddyn bach mewn côt gabardîn yn eistedd ar fainc gyda chwdyn papur brown, yn yfed o boteli gwyrdd.  Nid hwn yw’r alcoholig cyfoes, gan ein bod yn yfed yn breifat nawr, yn ein cartref fel arfer.

Ar y dechrau, ar ôl i mi gyfaddef fy nibyniaeth i’m hunan, ni allwn ddweud wrth fy ffrindiau a’m teulu.  Pan gyfaddefais yn y diwedd, ymateb pob un ohonynt oedd ei bod yn hen bryd i mi wneud hynny.  Cyfaddefais ac maen nhw i gyd wedi bod yn gymorth gwych ers hynny.  Beth bynnag yr ydw i wedi dymuno ei wneud er mwyn sobri, maent wedi rhoi eu cefnogaeth i mi, 100%.

Bywyd ar hyn o bryd

Mae bywyd yn wych ar hyn o bryd.  Mae fy iechyd yn gwella, ac mae fy mhersonoliaeth yr un fath ag yr arferai fod fwy neu lai.  Gallaf chwerthin a gwneud jôcs, gallaf goginio a glanhau, gallaf wneud beth bynnag yr wyf yn dymuno ei wneud nawr.

Rydw i wedi gorffen y broses ddadwenwyno ers pedwar mis erbyn hyn ac rydw i’n teimlo’n wych amdano.  Nid oes ofn arnaf siarad am fy arferion yfed nawr, fel yr oeddwn yn arfer bod.  Nid oes yn rhaid i mi guddio mwyach neu ei ysgubo dan y carped.  Cyfaddefwch i’ch hun ac i’ch ffrindiau a’ch teulu.  Yn bwysicach fyth, ceisiwch help gan eich meddyg teulu neu gan grŵp cymorth lleol.  Ewch am yr help y mae ei angen arnoch.