I gyflogwyr

Gadael gwaith neu ymddeol
I nifer, mae’r gweithle yn rhan sylweddol o’n bywyd lle y byddwn yn aml yn cymdeithasu, yn meithrin perthnasoedd cadarn ac yn datblygu ein rôl a’n hunaniaeth. Gall gadael gwaith ac ymddeol fod yn brofiad hynod o gadarnhaol, ond i rai, gall fod yn fwy o her. Mewn astudiaeth a gynhaliom ynghylch pobl dros 50 oed a’u defnydd o alcohol, cyfeiriodd 40% o’r rhai a oedd wedi dechrau yfed mwy nag yr oeddent yn arfer ei wneud yn y gorffennol, at ymddeol fel ffactor, a chyfeiriodd 1 o bob 5 at golli ymdeimlad o bwrpas yn eu bywyd. O ran ceisio cyflogaeth, efallai bod y rhai dros 50 oed yn wynebu mwy o sialensiau mewn marchnad gystadleuol, fodd bynnag, bydd ganddynt gryn dipyn o arbenigedd a sgiliau i’w cynnig yn aml. Yn ogystal, gall bod heb waith am y tymor hir gynyddu ymdeimlad o ddiffyg pwrpas ac unigrwydd, ac fe allai arwain at yfed mwy o alcohol.
Cyflogeion a’r rhai sy’n chwilio am waith
Trwy gyfrwng Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda, mawr obeithiwn ymgysylltu â chyflogeion a’r rhai sy’n chwilio am waith ac y maent dros 50 oed, er mwyn gwella’u dealltwriaeth o effaith yfed alcohol. Yn ogystal, rydym yn gwahodd cyflogwyr a sefydliadau chwilio am swydd i fod mewn sefyllfa well i gynorthwyo pobl dros 50 oed.
Yn ein holl ardaloedd arddangos, bydd Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda yn cynnig pecyn cymorth i gyflogwyr, cyflogeion, sefydliadau chwilio am swydd a sefydliadau lles cyflogeion sy’n cynnwys:
- sesiynau ymwybyddiaeth cyn ymddeol sy’n canolbwyntio ar gydnerthedd a heneiddio iach
- cymorth mynediad uniongyrchol i gyflogeion dros 50 oed yn yr ardaloedd arddangos sy’n dymuno cael cymorth mewn perthynas â’u defnydd o alcohol
- hyfforddiant am ymwybyddiaeth alcohol i staff, cyflogwyr a chynrychiolwyr cyflogeion
- cyfraniadau i gylchlythyrau a darparu taflenni ffeithiau am alcohol a heneiddio’n iach
Yn ogystal, gallwn ddarparu rhaglen grŵp modiwlaidd sy’n cynnwys chwe sesiwn o’r enw Byw’n Ddoeth, Heneiddio’n Dda, sy’n rhoi’r sgiliau ymdopi i bobl er mwyn eu paratoi ar gyfer cyfnodau pontio bywyd. Gellir darparu hyn mewn gweithleoedd neu leoliadau cymunedol. Yn ogystal, mae’n canllaw i’r gweithle yn cynnig cyngor ymarferol ynghylch sut i gynorthwyo rhywun dros 50 oed yn y gweithle, y gallent fod mewn perygl oherwydd eu defnydd o alcohol
I gael gwybod mwy, cysylltwch ag unrhyw un o’n hardaloedd arddangos yn uniongyrchol.
Email Newsletter
Ein cylchlythyr a ddosbarthir mewn neges e-bost i'ch mewnflwch yn uniongyrchol, sy'n cynnwys cyngor a chymorth defnyddiol
