Sut mae modd i mi yfed llai?

Mae nifer o ffyrdd o yfed ychydig yn llai o alcohol a theimlo’r manteision o ganlyniad i’r ffaith eich bod yn yfed llai.
Os hoffech yfed llai, ceisiwch:
- fwyta rhywbeth cyn i chi gael diod, bydd hyn yn helpu i arafu’r broses o amsugno alcohol i’ch corff
- peidio ag yfed alcohol am 2 i 3 diwrnod yr wythnos
- defnyddio gwydrau llai neu gwpan mesur unedau, gall fod yn anoddach cadw cofnod o’r swm yr ydych yn ei yfed yn y cartref
- osgoi ychwanegu mwy i’ch gwydryn cyn i chi orffen eich diod, gan bod hyn yn gallu eich helpu i gadw cyfrif o’ch diodydd
- pennu amserlen ar gyfer pob diod er mwyn sicrhau ei fod yn para’n hirach
- cael diod meddal neu ddŵr gyda phob diod feddwol neu ar ôl pob diod feddwol
- ceisiwch ganolbwyntio ar eich hobïau, eich diddordebau ac ar gyfleoedd cymdeithasol nad ydynt yn cynnwys alcohol.
Yn ogystal, gallwch gael rhywfaint o gyngor am yfed yn ddoeth trwy wylio ein fideo
Email Newsletter
Ein cylchlythyr a ddosbarthir mewn neges e-bost i'ch mewnflwch yn uniongyrchol, sy'n cynnwys cyngor a chymorth defnyddiol