Ein Straeon

Gwnaeth y bobl sy’n rhannu eu straeon droi at ein gwasanaethau ni am gymorth. Mae eu profiadau yn dangos bod yn rhaid i’r help fod yn rhagataliol, yn briodol i oedran y sawl dan sylw, yn sensitif ac mae’n rhaid iddo gydnabod anghenion yr unigolyn a’u teuluoedd.

  • Case Study: Billy a’i ferch, Marie

    Gwnaeth Marie gysylltu â ni yn y lle cyntaf i ofyn am gyngor am arferion yfed ei thad. Roedd Bill wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac roedd yn aml yn treulio cyfnodau hir i ffwrdd o’r cartref teuluol, a phan fyddai’n dod gartref, byddai’n yfed yn drwm ac yn y diwedd, gwnaeth ef a mam Marie wahanu. Pan adawodd y lluoedd arfog, symudodd i fyw mewn fflat un ystafell ac roedd ei arferion yfed alcohol wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Wrth iddo fynd yn hŷn, roedd ei yfed yn cael mwy o effaith ar ei iechyd, ac roedd yn mynd yn fwyfwy anghofus. Ar ôl cyfres o ddamweiniau, gan gynnwys tân yn ei fflat un ystafell a gorddos damweiniol o feddyginiaeth dan bresgripsiwn, gwnaeth Marie droi at ei feddyg teulu am gyngor, a wnaeth gyfeirio Bill at y gwasanaethau gwaith cymdeithasol.

    Dros y misoedd nesaf, trosglwyddwyd achos Bill o un adran i’r llall, gan gynnwys iechyd meddwl, oedolion hŷn a chaethiwed. Nid oedd unrhyw wasanaeth yn teimlo bod modd iddynt fodloni anghenion Bill mewn ffordd briodol, a gwelwyd ei achos yn parhau i syrthio rhwng dwy stôl. Yn y diwedd, gwnaeth Marie ein ffonio ni am gyngor. Nid oedd yn credu y byddai modd i ni helpu ei thad ychwaith, ond roedd wedi pethau wedi mynd i’r pen arni, ac roedd hi bron marw o eisiau help.

    ‘Roedd yr adegau pan oedd dad yn yfed yn adegau unig iawn iawn. Eich teulu chi ydyn nhw, ond nid oes unrhyw wybodaeth ar gael, neu mae’r wybodaeth a roddir gan weithwyr proffesiynol hyd yn oed yn anghywir. Mae’n chwithig’

    Gwnaethom gynnig apwyntiad i Marie i ddod i’n gweld ar ei phen ei hun yn y lle cyntaf, gan gynnig cyngor ymarferol a gwybodaeth iddi ynghylch sut i gynorthwyo ei thad yn well. Gwnaethom ddweud wrthi hefyd am wasanaeth alcohol sy’n cynorthwyo cyn-filwyr yn benodol. Ar ôl ychydig wythnosau, gwnaeth Marie ffonio eto, gan ofyn a fyddai modd iddi ddod i mewn gyda’i thad. Cynigiwyd apwyntiad iddynt yn gyflym ac esboniwyd i dad Marie sut y gallai’r rhaglen ei helpu a’r hyn y gallai ei ddisgwyl.

    Roedd Marie a Bill yn cytuno eu bod yn dymuno cael eu gweld gyda’i gilydd, a dros y misoedd nesaf, gwnaethant ystyried nifer o feysydd yn ymwneud â diogelwch, yn enwedig o ran meddyginiaeth a chwympo, gan osod nodau ynghylch yfed llai o alcohol, ac archwilio gweithgareddau teuluol eraill. Roedd unigrwydd yn fater mawr i Bill felly gwnaethant nodi gweithgareddau megis gwaith grŵp y rhaglen, yn ogystal â gweithgareddau cymunedol. Bellach, mae Bill yn mynychu’r grŵp cyn-filwyr yn rheolaidd ac mae wedi dechrau mynychu rhai dosbarthiadau yn ei lyfrgell leol. Yn ogystal, mae’n mynd i dŷ Marie ddwywaith yr wythnos i gael cinio ac mae’n mynd i wylio gêm bêl-droed gyda’i ŵyr bob wythnos. Mae Bill yn yfed o hyd, fodd bynnag, dim ond ddwywaith yr wythnos nawr, ac mae’n yfed yn ei dafarn leol i gael cwmni, fyth yn ei gartref.

    ‘“Mae’r rhaglen wedi ein cynorthwyo ni ar ein taith, ac nid yw fyth wedi ein barnu. Byddai dad wedi cael ei eithrio oherwydd ei oedran, ond roeddent yn deall a gwnaethant roi cymorth ta beth. Mae wedi rhoi nerth i mi; nid ydw i ar fy mhen fy hun. Mae pobl yn deall ac yn gwrando. Bellach, teimlaf bod modd i mi helpu eraill y maent yn yr un sefyllfa”

    Read more
  • Case Study: Stori Irene yn

    Cyfeiriwyd Irene at y rhaglen ar ôl iddi droi at ei meddyg teulu am help.

    Read more